Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Mai 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd
yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld
y Cwestiynau
(45 munud)
Bydd y Llywydd
yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld
y Cwestiynau
(20 munud)
I ofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd
Cymru
Rhun Ap Iorwerth
(Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad
am yr effaith y bydd yr oedi i gam 2 gwaith atgyweirio Pont Menai
yn ei chael ar Ynys Môn?
I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rhys Ab Owen (Canol De Cymru): Pa fesurau sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru i wella diogelwch yr amgylchedd tra'n sicrhau bod biliau dŵr yn darparu gwir werth am arian i ddefnyddwyr?
(5 munud)
(60 munud)
NDM8903 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai,
‘Rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau
tref a chymuned’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2025.
Noder: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14
Mai 2025.
(60 munud)
NDM8904 Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg,
Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: ‘Cysylltiadau
Rhyngwladol Adroddiad Blynyddol 2024’
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mawrth
2025.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2025.
(60 munud)
NDM8906 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r anghyfiawnderau pensiwn sylweddol a hirsefydlog o
ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Lywodraethau olynol y DU.
2. Yn cydnabod gwaith grwpiau ymgyrchu megis menywod y 1950au,
cyn-weithwyr Allied Steel and Wire a chyn-aelodau cynllun pensiwn
staff Glo Prydain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU i:
a) gweithredu ar ymrwymiad blaenorol gan y blaid Lafur i
unioni’r cam a wnaed i fenywod a anwyd yn y 1950au yng
Nghymru ac y mae newidiadau i bensiwn y wladwriaeth wedi effeithio
arnynt;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn
ôl chwyddiant; ac
c) trin aelodau cynllun pensiwn staff Glo Prydain a chynllun
pensiwn y glowyr yn gyfartal.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r
achos dros weithredu ar y materion hyn er gwaethaf ei phartneriaeth
mewn pŵer, ac yn galw arni i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y
DU i:
a) gweithredu
argymhellion Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd i fenywod y
1950au;
b) uwchraddio pensiynau cyn-weithwyr Allied Steel and Wire yn unol
â chwyddiant; ac
c) estyn Cynllun Pensiwn y Glowyr i gynnwys aelodau Cynllun Pensiwn
Staff Glo Prydain.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 3
a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu'r diwygiadau diweddar a wnaed gan Lywodraeth y DU i
Gynllun Pensiwn y Glowyr, gan gynnwys gweld y gronfa fuddsoddi wrth
gefn yn dychwelyd a'r cynnydd o ganlyniad i daliadau pensiwn
cyn-lowyr.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon yn gyson am
anghyfiawnderau pensiwn gyda Llywodraethau olynol y DU, a’i
bod yn parhau i eirioli ar ran:
a) pensiynwyr Allied Steel and Wire;
b) menywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i oedran pensiwn y
wladwriaeth wedi effeithio arnynt; ac
c) aelodau o gynllun pensiwn staff Glo Prydain.
(30 munud)
NDM8905 Mick Antoniw
(Pontypridd)
Cymru ac Ewrop: chwalu'r rhwystrau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2025